prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind

rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | Y PAPUR

Swansea Print Workshop logo  

ENGLISH >>

Y PAPUR

Gwybodaeth am ein papur

Pan ddechreuon ni ar y prosiect yma roeddem yn edrych am un math o bapur ar gyfer yr holl gyhoeddiad. Un o'r pethau cyntaf i'w benderfynu oedd maint y papur i'w ddefnyddio, oherwydd byddai hyn yn effeithio ar y ddelwedd y byddai pob gwneuthurwr print yn ei chynhyrchu, pa wasg y gellid ei defnyddio i argraffu'r papur a mesuriadau'r blwch golygu. Byddai rhywbeth tua hanner maint 'Imperial' yn addas, h.y. 510 x 375 mm, ond daeth yn amlwg yn fuan na ellid cael y maint yma o'n cyflenwyr rheolaidd, oni bai ein bod yn rhwygo dalennau mwy ac felly roedd rhaid edrych ar bapur a wnaethpwyd â llaw, a fydddai hefyd yn ychwanegu at ansawdd y gyfres.

Buom yn chwilio am felin bapur yng Nghymru ond yn ofer, ni chafwyd ond ychydig gyfeiriadau at wneuthurwyr papur oedd wedi hen ddiflannu ac felly daethom i Felin Bapur Wookey Hole yng Ngwlad yr Haf. Ar un adeg roedd y felin yn gwneud papur 'Demy' gyda'r nodweddion addas ond yn anffodus roedd wedi peidio â chynhyrchu'r papur yma beth amser yn ôl ac roedd y mowldiau wedi'u gwerthu 

Un posibilrwydd drud braidd oedd cynhyrchu ein mowldiau ein hunain a chan fod un person yn y wlad gyda'r sgiliau i wneud y rhain fe wnaethom ni benderfynu comisynu pâr gan gynnwys un decl. Gwnaeth Ron MacDonald o E. Amies & Son yn Swydd Caint y gwaith i ni ac ar Noswyl Nadolig 2002 cyrhaeddodd ein mowldiau, eitemau hardd eu hunain mewn mahogani gyda ffitiadau copr a rhwyll wifrog ffosfor-efydd. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach aethpwyd â'r rhain i'r Felin Bapur a dechreuodd Ian Wilcox gynhyrchu 1500 dalen yn gynnar ym mis Ionawr. Ceir y dyfrnodau SPW a GAA ar y papur cotwm gwyn hyfryd a wnaed â llaw, nid yw'n cynnwys asid ac mae'n pwyso tua 425 gsm. Mae pob dalen gyda'i phedwar ymyl decl yn tueddu amrywio ryw ychydig mewn maint, gorffeniad a phwysau. Dewiswyd dau orffeniad arwyneb 'oerbresio', un â 'llathr ysgafn' sy'n arw i'w gyffwrdd, a'r llall yn fwy llyfn ac yn 'llathr iawn'. Mae'r graddfa 'llathr' yn dibynnu ar faint o bwysau a roddir ar y dalennau pan ânt drwy ddau roler a rheolir hyn gan nifer y dalennau zinc sy'n cael eu rhyngdalennu â'r papur. Fel arfer defnyddiwyd y llathr uchel ar gyfer sgrîn sidan a phrintiau cerfwedd.

CARTREF

Y PROSIECT ARGRAFFU

Y PRINTIAU

YR ARTISTIAID

CATALOG YR ARDDANGOSFA

RHAGAIR

HEDDWCH AM EILIAD

Y GERDD

HANES Y PROSIECT

Y PAPUR

Y BOCS

Y COLOFFON

ARDDANGOSFA

DIOLCHIADAU

SUT I BRYNNU

Y WASG

GEIRFA

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE

CYSWLLT

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT

 

Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warent. 
Rhif Companies House 4078671: 19a Stryd Clarence, Abertawe SA1 3QR

  

gweithdy argraffu abertawe 2003. I weld yr we fan ma ar ei orau defnyddiwch 1024 x 768 ar ie5 neu hwyrach