prosiect argraffu dylan thomas especially when the october wind

rydych chi nawr yn: PROSIECT ARGRAFFU DYLAN THOMAS | Y PROSIECT ARGRAFFU | HANES Y PROSIECT

Swansea Print Workshop logo     

ENGLISH >>

HANES Y PROSIECT

CYTUNODD DEUDDEG GWNEUTHURWR PRINTIAU O WEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE I GYDWEITHIO AR BROSIECT I NODI HANNER CAM MLWYDDIANT MARWOLAETH DYLAN THOMAS YM MIS TACHWEDD 1953. BYDDAI POB ARTIST YN Y Y PEN DRAW YN CYNHYRCHU UN DDELWEDD A FYDDAI'N RHAN O SET O DDEUDDEG PRINT MEWN BOCS.

LLWYDDODD Y PROSIECT YMA GYFLAWNI EI NOD O GANLYNIAD I GRANT DATBLYGU CYNHYRCHU A CHYNULLEIDFA GAN GYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU, A DECHREUODD Y PROSIECT YM MIS HYDREF 2002.

Buom yn gweithio'n agos gyda David Woolley o Ganolfan Dylan Thomas, Abertawe, ac roedd ei gefnogaeth a'i anogaeth yn werthfawr dros ben yn enwedig yn y cyfnod cynnar.

Ein cylch gwaith ni fel artistiaid oedd ailgysylltu ag agwedd o waith cynnar Dylan Thomas o'i gyfnod yn Abertawe. Roeddem yn credu y byddai ein profiadau, ein cefndir a'n hoedran amrywiol yn cynhyrchu canlyniadau diddorol a gwahanol. Yn ein cyfarfodydd cynnar buom yn darllen ac yn trafod gwaith Dylan gan arwain at gonsensws ar agwedd benodol. Hefyd daeth Dr Chris Wiggington o Goleg y Drindod Caerfyrddin, gyda Victor Golightly a Dr Richard Chamberlain i gyflwyno seminar anffurfiol o'u barn. Roedd yn cysylltu â'r hyn roedd rhai ohonom eisoes yn ei wneud yn reddfol, ond bu'n fodd i ni ganolbwyntio'n fwy eglur a gweithredu fel catalydd i ragor o syniadau. Nid ein bwriad oedd cynhyrchu lluniau yn ystyr mwyaf cyfyng y gair, a bu hon yn broses ddefnyddiol, llawn asbri. 

Bu GÝyl Dylan Thomas yn Abertawe, a gynhelir o Hydref 27ain (ei ddyddiad geni) i Dachwedd 9fed (dyddiad ei farwolaeth) bob blwyddyn, hefyd yn bwydo i'r broses gyda rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau, darlleniadau, siaradwyr a darnau prin o ffilm.

Yn y pen draw penderfynwyd canolbwyntio ar y gerdd 'especially when the october wind'. Roeddem yn teimlo y byddai deuddeg dehongliad o'r un testun yn fwy diddorol na deuddeg dewis unigol a byddai'n arwain at gasgliad mwy cydryw o brintiau.

Yn ein cyfarfodydd rheolaidd hyd at ddiwedd 2002 roedd yn amlwg y byddai'r printiau'n amrywio, nid yn unig o ran delweddau ond hefyd mewn agweddau technegol. I rai artistiaid roedd y prosiect yn gyfle i ddatblygu dulliau gweithio oedd yn newydd iddyn nhw. Roedd hyn yn gyffrous ac yn ddiddorol ac yn werthfawr dros ben i'r arfer gwaith cyffredinol yn y stiwdio gan gyflawni un o nodau pwysicaf y prosiect. Roedd y rhai a ddaeth yn rheolaidd i'r stiwdio bob wythnos yn gallu dilyn cynnydd y lleill ac elwa o rannu arbennigedd.

Roedd tri Proflun gan bob artist yn barod erbyn Chwefror 2003, braidd yn hwyrach na'n hamserlen wreiddiol. 

Mae argraffu'r cant yn y cyhoeddiad wedi'i wneud yn gyfan gwbl â llaw. Mae rhai prosesau'n cymryd cryn amser ac efallai mai dim ond rhyw ddeg print y dydd a gynhyrchir. Bydd pob print wedi'i drin o leiaf ugain o weithiau o ddechrau'r broses gwneud papur i'r arwyddo terfynol a gosod y printiau mewn bocsys.

Mae Profluniau'r Artistiaid wedi'u fframio i ffurfio dwy arddangosfa deithiol a bydd yr un sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio fel rhan o raglen gweithdy. 

Yn dilyn rhagarddangosfa yn wythnos Cymru y Cynulliad Cenedlaethol ym Mrwsel ym Mawrth 2003, a lansio'r printiau yng Nghanolfan Dylan Thomas ym Mai 2003, cynhelir pedwar gweithdy lle bydd cyfle i'r rhai sydd eisiau bod yn wneuthurwyr printiau gwrdd â rhai o'n hartistiaid i drafod thema sy'n gysylltiedig â Dylan Thomas. Bydd o leiaf un o'r gweithdai hyn ar gyfer pobl ifanc. 

Gobeithiwn arddangos y printiau o'r gweithdai hyn yn gynnar yn 2004.

CARTREF

Y PROSIECT ARGRAFFU

Y PRINTIAU

YR ARTISTIAID

CATALOG YR ARDDANGOSFA

RHAGAIR

HEDDWCH AM EILIAD

Y GERDD

HANES Y PROSIECT

Y PAPUR

Y BOCS

Y COLOFFON

ARDDANGOSFA

DIOLCHIADAU

SUT I BRYNNU

Y WASG

GEIRFA

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE

CYSWLLT

GWEITHDY ARGRAFFU ABERTAWE DYLAN THOMAS 50MLWYDDIANT

 

Mae Gweithdy Argraffu Abertawe yn cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warent. 
Rhif Companies House 4078671: 19a Stryd Clarence, Abertawe SA1 3QR

  

gweithdy argraffu abertawe 2003. I weld yr we fan ma ar ei orau defnyddiwch 1024 x 768 ar ie5 neu hwyrach